Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Medi 2017
Amser:
09.30 -
14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4408
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Sue Phelps, Alzheimer's Society Yr Athro Sue Jordan, Prifysgol Abertawe Tim Banner, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Suzanne Tarrant |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
2 Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC a Dawn Bowden AC.
2 Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 1 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
3 Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas Alzheimers
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sue Phelps o Gymdeithas Alzheimer's Cymru.
4 Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 3 - Yr Athro Sue Jordan
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Sue Jordan a Tim Banner.
5 Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 4 - Suzanne Tarrant
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzanne Tarrant.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dilyn y cyfarfod ar 15 Mehefin
6.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn perthynas â’r ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â threfniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
6.3 Craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 - craffu ariannol yn ystod y flwyddyn - llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog yn dilyn y cyfarfod ar 29 Mehefin
6.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog.
6.4 Llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ar ôl lansio'r adroddiad
6.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol mewn perthynas â lansio adroddiad y Pwyllgor ar recriwtio meddygol.
6.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19
6.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
6.6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19
6.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
6.7 Llythyr gan Bwyllgor Iechyd Tŷ'r Cyffredin
6.7a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin.
6.8 Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chychwyn adrannau 2 a 3 (gordewdra)
6.8a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
6.9 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â chanllawiau sy'n cefnogi gweithrediad y Ddeddf
6.9a Nododd y Pwyllgor y llythyr gab Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn perthynas â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 5 - pobl sydd wedi'i effeithio gan y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal
8.1 Clywodd y Pwyllgor gan berson sydd wedi cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meddyginiaeth gwrth-seicotig mewn cartrefi gofal a lleoliadau ysbyty.
9 Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3, 4, 5 ac 8 o’r cyfarfod.
10 Ymchwiliad i ofal sylfaenol - trafod yr adroddiad drafft
10.1 Trafododd y Pwyllgor gopi drafft cyntaf o adroddiad ei ymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol.